A ninnau wedi gadael yr UE bellach, mae yna gyfle i greu Prydain ffederal flaengarol seiliedig ar hunanlywodraeth, cyfartaledd a chydgefnogaeth rhwng ei thair cenedl.
Dyna’r unig ddewis realistig heblaw am undeboliaeth — sy’n parhau sefyllfa lle cedwir rheolaeth dosbarth llywodraethol – Seisnig i raddau helaeth – dros wleidyddiaeth ac ecónomi Cymru — ac am ‘ymwahaniaeth’, sy’n gwadu’r cysylltiadau economaidd a chymdeithasol clòs rhwng Cymru a Lloegr a rhwng ein mudiadau llafur a blaengar.
Byddai fersiwn Plaid Cymru o ‘annibyniaeth’ yn ildio’r pwerau y mae mawr eu hangen arnom yng Nghymru i Gomisiwn anetholedig yr UE, Banc Canolog anatebol Ewrop, a Llys Cyfiawnder yr UE sy’n elyniaethus i undebau llafur. Trysorfa Llundain fyddai’n rheoli ein harian.
Ar yr un pryd byddai ymwahanu’n wleidyddol o Brydain yn gadael i’r dosbarth tra chyfoethog sy’n heidio o gwmpas Dinas Llundain a de ddwyrain Lloegr gadw’r cyfoeth anferth a gynhyrchir gan weithwyr Cymru, yr Alban a Lloegr.
Mae Comiwnyddion Cymru’n galw am Dreth ar Gyfoeth a fyddai’n ei ail[1]ddosbarthu i bobloedd pob cenedl a phob rhanbarth ym Mhrydain.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn galw am hunanlywodraeth i Gymru mewn Prydain ffederal ers mwy na 70 mlynedd. Mae’r polisi’n ennill cefnogaeth bellach ymhlith rhai ym mudiad Llafur Cymru.
Dymunwn weld pobl sy’n gweithio a’u cynghreiriaid yn ennill mwy o reolaeth dros y monopolïau cyfalafol, ac adnoddau economaidd a chyllidol yn cael eu dosrannu ar lefelau ffederal, cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae argyfwng Cofid wedi dangos yn anad dim faint rydym yn dibynnu ar bobl sy’n gweithio am bopeth — am ein hiechyd, ein diogelwch, ein bwyd, ein cyflenwadau ynni a’n system gludiant.
Mewn cymdeithas a symbylir gan elw cwmnïau, mae chwant y rhanddeiliaid mawr yn drech bob amser nag anghenion pobl sy’n gweithio a’u teuluoedd.