GRYM I RIENI A GOFALWYR

Nid yw mathau o waith nad ydynt yn creu elw – megis gofalu am aelodau teulu — yn cael eu gwerthfawrogi fel y dylent yn ein cymdeithas ni. Fel y mae’r pandemig wedi dangos, mae’r un peth yn wir am y gweithwyr hanfodol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. 

Ni ddylem synnu: nod y system gyfalafol yw gwneud elw. Mae’r rhan fwyaf o’r elw hwnnw’n perthyn i’r haen gyfoethocaf o’r boblogaeth. Nid yw’r rhan fwyaf ohono’n cael ei hail-fuddsoddi yn y gymuned i gyllido diwydiannau a gwasanaethau angenrheidiol. Mae llawer ohono’n cael ei wario ar eitemau moethus, neu ar hapfasnachu a hapfuddsoddi, neu’n cael ei anfon i hafanau treth dan reolaeth Brydeinig ledled y byd. ‘Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir.’

Trwy orfodi cynifer o bobl â phosibl i weithio am gyflog, mae cyfalafiaeth yn tanseilio ein rhwymau â’n teuluoedd a’n cymuned. Gadewir llai o bobl i ofalu am ein plant, ein pobl oedrannus a’n pobl fwyaf bregus ni. Mae llawer o’r rhai sydd yn gofalu amdanynt yn wynebu tlodi a diffyg cefnogaeth gan drefn gymdeithasol nad yw’n pryderu’n fawr am y gofalwyr eu hunain.

Menywod yn bennaf sy’n dwyn baich y gwaith gofalu di-dâl ac isel ei gyflog a gyflawnir yn ein cymdeithas ni.

Yn ôl yr amgylchiadau, mae gofalu am eraill yn gadael gofalwyr dan anfantais ychwanegol wrth iddynt gyrraedd oedran ymddeol. Yn ogystal â cholli’r hawl i bensiwn gwaith neu alwedigaethol, gallant beidio bod yn gymwys hefyd i dderbyn y pensiwn gwladol llawn.

Mae gofalu am blant yn waith arall nad yw’n cael ei werthfawrogi’n llawn, ac yn aml iawn mae’n waith di-gyflog. Mae hawliau i gredydau treth a budd-daliadau cysylltiedig â gofal plant wedi cael eu cwtogi’n ogystal.

Mae 180,000 o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi. Dyna fwy nag un o bob pedwar (28%), ac mae’n cynyddu o ganlyniad i ddiwygiadau’r Torïaid i fudd-daliadau ac effaith Cofid ar swyddi ac incwm pobl. Fe aiff pethau’n waeth byth oni roddwn ni derfyn ar hyn. 

Dyna pam mae Comiwnyddion Cymru’n cynnig y mesurau hyn fel rhan o raglen ar draws Prydain i gefnogi rhieni, plant a gofalwyr a diddymu tlodi ymhlith plant:

  • Cyflog Cymdeithasol i’r holl rieni a gofalwyr hynny sy’n gadael gwaith â chyflog er mwyn gofalu am blant, perthnasau neu aelodau o’r gymuned.
  • Pensiwn gwladol llawn i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi gadael gwaith â chyflog am gyfnod er mwyn gofalu am eu plant, perthnasau neu aelodau o’r gymuned.
  • Absenoldeb mamolaeth a thadolaeth hwy â chyflog i bob rhiant: cadw swyddi ar agor i rieni nes bod eu plant i gyd wedi cyrraedd oedran ysgol statudol.
  • Gofal plant di-dâl o enedigaeth ymlaen ar gael i’r rhieni hynny sy’n dymuno mynd yn ôl i’w gwaith cyflogedig yn dilyn genedigaeth plentyn.
  • Absenoldeb â chyflog o’r gwaith i Rieni yn achos argyfyngau ynglŷn â’u plant.
  • Gwasanaeth Gofal Gwladol gwydn, wedi’i gyllido’n hael, a fyddai’n cynnig gwasanaethau gofal mewn modd tebyg ag y gall Gwasanaeth Iechyd Gwladol gwydn, wedi’i gyllido’n hael, gynnig gwasanaethau ym maes iechyd.
To top