Cymunedau glanach, diogelach, cysylltiedig
Rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio’n gyfforddus, ac mewn modd fforddiadwy, i’w gweithle yn eu cymuned leol neu’n agos iddi. Bydd hyn yn gostwng allyriadau carbon ac yn helpu ein cymunedau i oroesi a ffynnu.
Mae angen rhoi terfyn ar yr hen drefn lle mae nifer fawr o gymudwyr yn heidio ar hyd yr M4, yr A55, yr A48 a’r A470 bob bore a phrynhawn. Mae’n wastraffus ac yn anghynaliadwy. Mae’n hen bryd i’r bererindod ddyddiol i’r gwaith mewn ceir preifat ddiflannu i’r llyfrau hanes, gan ildio’r ffyrdd i gludiant cyhoeddus effeithiol.
Mae argyfwng Cofid wedi dangos ei bod hi’n bosibl inni gyflawni llawer o swyddi mewn gwasanaethau yn ein cartrefi ni y rhan fwyaf o’r amser. Mae angen cynlluniau arnom, wedi’u hariannu gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, i adael i hyn barhau, gyda chymorth rhwydwaith band llydan tra chyflym yn gwasanaethu ein cymunedau lleol i gyd.
Yn debyg i’r undebau cludiant, mae’r Blaid Gomiwnyddol yn credu y dylid dychwelyd y rheilffyrdd a’r gwasanaethau bysiau i berchnogaeth y cyhoedd, lle y gellir eu cynllunio, eu cyd-drefnu a’u hariannu’n briodol.
Rhaid gwrthdroi’r holl doriadau a gawsom dros y degawd diwethaf yma o gyni a chaledi. Dylid adfer y goleuadau ar y strydoedd a’u hestyn i wneud ein cymunedau’n ddiogelach. Rhaid i orsafoedd heddlu lleol ail-agor eu drysau i’r cyhoedd. Byddai rhagor o wardeiniaid, gofalwyr parc a staff cludiant yn sicrhau bod mwy o’n mannau agored ni’n ddiogel er lles y cyhoedd.
Ni ddylai’r un ardal yng Nghymru fod heb ffynhonnell cyngor a chymorth, a llety diogel gerllaw ar gyfer menywod a phlant sydd am ddianc rhag trais domestig. A oes blaenoriaeth fwy dybryd na hyn y dylai Llywodraeth Cymru a llywodraethau lleol weithredu yn ei chylch, gan gydweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau’r sector gwirfoddol?
Iechyd
Rydym i gyd wedi canmol gwaith arwrol ein gweithwyr iechyd trwy gydol yr argyfwng. Ond mae’r argyfwng presennol wedi tanlinellu hefyd ein dibyniad ar gadwyni cyflenwi bregus ar gyfer moddion, cyfarpar a PPE.
Ni allwn ni ddibynnu ar gorfforaethau rhyngwladol i gynhyrchu’r cyfarpar i ysbytai, y PPE, y moddion, y systemau profi ac olrhain a’r brechlynnau a fydd yn hanfodol bwysig os ydym am drechu epidemigion yn y dyfodol.
Blaenoriaeth bennaf y cwmnïau preifat yw elw’r ychydig rai, nid iechyd y mwyafrif. Mae’r cwmnïau fferyllyddol mawr wedi tewhau ers tro byd ar arian y cyhoedd a’r GIG – dylent gael eu rhoi ym meddiant y cyhoedd a’u gorfodi i wasanaethu lles y cyhoedd.
Mae’n hanfodol i Gymru barhau i ddilyn llwybr gwahanol i lywodraeth Prydain o ran cyfranogiad y sector preifat yn y gwasanaeth iechyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i gynnal cymeriad cymunedgar gweledigaeth wreiddiol Aneurin Bevan, ond erys ein GIG yn agored i’w ysbeilio gan y carfannau barus hynny sydd am gamfanteisio arno. Mae angen inni gynnal adolygiad dioed ar y rhannau hynny o’r GIG yng Nghymru sy’n cael eu hecsbloetio gan gwmnïau preifat.
Rydym hefyd yn wynebu’r argyfwng cyllido sydd ar ddigwydd yn GIG Cymru. Ond ni allwn fentro dibynnu’n llwyr bob amser ar gynyddu cyllidebau ysbytai, na chyffuriau a chyfarpar newydd. Rhaid inni newid at roi pwyslais mwy o lawer ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol afiechyd ac ar fesurau ataliol.
Gwell rhwystro’r clwy na’i wella
Os ydym am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, mae rhaid creu system sy’n dod â chymunedau, eu Meddygon Teulu a rhychwant llawn y gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i weithredu ar achosion afiechyd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod ers y 1970au bwysigrwydd rôl y gymuned mewn gwaith ataliol a pholisïau ynghylch iechyd cyhoeddus. Mae adroddiadau llywodraethol yn adleisio’r neges yma, ond nid yw wedi ymwreiddio’n llwyddiannus eto yng Nghymru.
Mae angen newid y ffordd y mae Meddygfeydd Teulu’n cael eu comisiynu a’u gweithredu. Mae arnom angen gwasanaeth iechyd sylfaenol ym mhob ardal fydd yn gyfrifol am iechyd hirdymor y gymuned gyfan honno. Rhaid i’r prif ffactorau sy’n achosi afiechyd ym mhob cymuned gael eu hasesu a’u targedu’n lleol, boed yn fater o lety gwael, deiet gwael, neu ddiffyg mannau agored a chyfleusterau ymarfer corff di-dâl neu fforddiadwy.
Dylai partneriaethau iechyd sylfaenol ddod â Meddygon Teulu, y cyngor lleol a thrigolion yr ardal, cymdeithasau tai, ysgolion a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol ynghyd i daclo afiechydon sydd wedi ymwreiddio ers cenedlaethau.
Mewn llawer o ardaloedd, mae trefnu apwyntiad i weld Meddyg Teulu neu ddeintydd yn rhy anodd o lawer, hyd yn oed ar adeg normal, tra bod Meddygon Teulu mewn ardaloedd eraill yn cystadlu i ennill cleifion. Ar lefel Cymru gyfan felly, mae angen cytuno ar ddynesiad cynlluniedig at hyfforddi a recriwtio staff meddygol sy’n seiliedig ar yr angen rhagamcanol ym mhob ardal.
Gwasanaeth Gofal Gwladol
Mae pandemig Cofid-19 wedi dangos pa mor fregus yw ein gwasanaeth gofal, a maint ymroddiad ei staff.
Ni ddylid ymddiried darpariaeth uniongyrchol gofal cymdeithasol i neb ond i weithwyr proffesiynol tra hyfforddedig sy’n ennill cyflogau haeddiannol. Rhaid inni fynd ati i ddatrys problemau’r cyflogau a’r amodau gweithio gwael yn y sector, ynghyd â’r prinderau staff a’r cyllido annigonol sy’n bla arno.
Dyna pam mae undebau llafur a’r Blaid Gomiwnyddol yn mynnu contract cyflogaeth safonol i waith gofal – gan gynnwys tâl salwch, oriau contractiedig a thâl am bob awr ar ddyletswydd gan gynnwys ‘cyfnodau cysgu’ ac amser teithio – a fyddai’n gymwys i weithwyr yng nghartrefi cleientiaid a mewn cartrefi preswyl.
Mae’r preifateiddio diatal ym maes gofal i’r henoed wedi arwain at anarchiaeth y ‘farchnad rydd’ ac anhrefn. Mae llu o gwmnïau preifat yn cystadlu am gontractau gan awdurdodau lleol, gan beri râs am y gwaethaf mewn hyfforddiant, cyflogau a safonau gofal. Mewn ardaloedd cefnog mae syrffed o gwmnïau’n cystadlu am y gwaith, tra bod darparwyr gofal i’w gweld yn brin ac yn anaml mewn ardaloedd eraill.
Mae Comiwnyddion Cymru’n galw am fwy o integreiddio rhwng y gwasanaethau iechyd a gofal. Mae cymhlethdod y weithdrefn gyllido bresennol yn hunllef i weithwyr, preswylwyr a’u teuluoedd. Mae cyllid yn cael ei ddyrannu o wahanol gronfeydd ar gyfer gofal cymdeithasol, anghenion nyrsio sylfaenol, ac anghenion mwy cymhleth pob unigolyn.
Mae cymhlethdod y we gyllido o wahanol ffynonellau – awdurdodau lleol, y GIG a chronfeydd preifat – yn ychwanegu at yr anghysondeb, yr oedi a’r beichiau biwrocrataidd anferth. Dylai gofal preswyl a gofal nyrsio fod ar gael yn rhad ac am ddim yn y man lle mae eu hangen, a chael eu cynllunio dros y tymor hir.
O ran dyled i’n cyd-ddinasyddion oedrannus, rhaid inni gynllunio at ddarparu cartrefi gwarchod, lleoedd mewn cartrefi gofal a staff sy’n cael eu hyfforddi a’u talu’n briodol, a hynny dros gyfnod o 25 mlynedd. Darpariaeth gan y sector cyhoeddus a ddylai fod wrth galon y drefn hon; rhaid i’r hyn a ddarperir fod ym meddiant y cyhoedd ac yn atebol i’r cyhoedd; byddai’n rhaid i gartrefi gofal preifat helpu i gyflawni’r cynllun gan lynu wrth ei safonau uchel neu gael eu cau.
Siarter dros Gartrefi
Mae cartref safonol, fforddiadwy, diogel yn hawl ddynol sylfaenol.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn ymgyrchu dros ddynesiad newydd at ddarparu cartrefi sy’n cwrdd ag anghenion a dyheadau’r werin, yn hytrach na diwallu chwant tirfeddianwyr, datblygwyr, bancwyr a cyfranddeiliaid mawr.
Rhaid rhoi’r flaenoriaeth i gael gwared â chartrefi is-safonol, llety gorlawn, rhenti annheg a digartrefdra.
Mae angen codi rhyw 8,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn yng Nghymru er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol. Dyna 2,000 yn fwy na’r nifer flynyddol sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ac ar ben hynny mae 67,000 o deuluoedd ar restrau aros Cymru i gael cartref newydd.
Ar yr un pryd mae bron 30,000 o dai preswyl yng Nghymru — bron pob un ohonynt yn y sector preifat — yn wag neu’n ‘dai haf’. Dylid rhoi terfyn ar y fath sefyllfa, lle mae syrffed y tai haf yn gwthio prisiau tai lleol i fyny ac i fyny gan ladd gwasanaethau a swyddi lleol. Yn ogystal â threthi uwch, mae rhaid gosod cyfyngiadau llymach ar brynu tai, y modd o ddiffinio eu statws, a rheolau ynghylch methiant perchnogion i fyw ynddynt.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol newydd gyhoeddi Charter for Housing sy’n cyflwyno ei pholisïau i gyflawni’r nodau hyn. Maent yn cynnwys:
- Adeiladu llawer mwy o gartrefi cyngor a thai cymdeithasol — mwy na 10,000 o unedau’r flwyddyn yng Nghymru.
- Adfywio ystadau cyngor sydd mewn cyflwr gwael.
- Rhoi’r gorau i werthu tir cyhoeddus i ddatblygwyr preifat.
- Defnyddio mwy o Orchmynion Prynu Gorfodol (CPOs) lle bo angen.
- Trethu perchnogion tir ac eiddo gwag yn llymach.
- Creu sefydliadau cynilo cenedlaethol a lleol sy’n arbenigo mewn cyllid tai a chefnogi strategaethau tai cenedlaethol a lleol.
Gellid cyllido rhaglen o’r fath ymhellach drwy osod Treth Ddatblygu Tir ar hap-elw ac ysgafnhau’r cyfyngiadau a osodir heddiw ar fenthyca cyfalaf gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, gan roi iddynt fynediad rhwyddach at gredydau a benthyciadau llog isel oddi wrth y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.
Dylai ein tai cymdeithasol i gyd ddychwelyd at reolaeth uniongyrchol atebol gan yr awdurdodau lleol gyda chyllid digonol, a dylid ailsefydlu sefydliadau llafur uniongyrchol.
Rhaid i lety gwarchod a gofal preswyl fod ar gael yn rhad ac am ddim, neu’n fforddiadwy, i bobl oedrannus ledled Cymru.
Dylai darparu llety addas ar gyfer pob teulu digartref ddod yn ddyletswydd statudol, er mwyn rhoi terfyn ar lety gorlawn a chysgu allan. Dylid diddymu’r Dreth Ystafell Wely ac adfer budd-daliadau tai’n llawn i bob un dan 35 oed.
Dylid capio lefelau rhent a chodiadau mewn rhent yn y sector preifat yn unol â’r amgylchiadau lleol a therfyn cenedlaethol. Mewn ymateb i Cofid, galwn am i renti tai cymdeithasol gael eu rhewi ac am i’r gwaharddiad ar yrru pobl allan o’u tai yn ystod cyfnod Coronafeirws gael ei estyn am o leiaf 12 mis.
Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn cefnogi sefydliadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n ymgyrchu dros welliant yn hawliau tenantiaid a thros i ddatblygiadau tai fod dan reolaeth leol ac yn seiliedig ar yr angen wedi’i asesu am gartrefi.
Addysg
Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn cymeradwyo’r gwaith a gyflawnir gan undebwyr llafur mewn addysg i gadw ein plant yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae staff ysgolion, mewn ymgynghoriad â rhieni, disgyblion a’r gymuned ehangach, wedi arddangos arweinyddiaeth a thosturi trwy gydol argyfwng Cofid. Hwythau ddylai arwain y diwygiadau y mae mawr eu hangen yn ein hysgolion a’n colegau ni.
Mae angen system asesu amgen arnom i ddisodli gwallgofrwydd y ‘ffatri arholi’ bresennol. Rhaid rhyddhau ein gweithwyr addysg proffesiynol o fiwrocratiaeth Estyn (sy’n cyfateb i Ofsted yn Lloegr) a’r holl haenau o reolaeth leol.
Dim ond wedyn y gallwn ni gynllunio dyfodol sy’n gwerthfawrogi ac yn gloywi doniau ein plant, yn hytrach na threfn nad yw’n dda ond i dragwyddoli tablau cynghrair.
Mae addysg yn chwarae rhan anhepgor wrth gefnogi’r iaith Gymraeg. Rhaid i ysgolion a meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg fod ar gael ym mhob cwr o Gymru. Nid tasg fechan mo hon, a bydd angen mesurau newydd i hyrwyddo’r defnydd cynyddol a wneir o’r Gymraeg ym mhob sefyllfa addysgol ac wrth hyfforddi llawer mwy o athrawon dwyieithog.
Mae ysgolion lle y telir ffioedd yn rhan o system o wahaniaethu ar sail dosbarth sy’n cadarnhau anghydraddoldeb a breintiau yn y gymdeithas. Nid oes lle iddynt mewn cymdeithas ddemocrataidd. Mae Comiwnyddion o blaid diddymu addysg breifat yng Nghymru.