Mae gwir ddemocratiaeth yn ymestyn ymhellach na’r bocs pleidleisio; mae’n cwmpasu’r grym y mae pobl sy’n gweithio’n dyheu amdano yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Mae’r mesurau cadarnhaol yn Neddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn dangos sut gall y Senedd ddeddfu er gwella hawliau gweithwyr.
Ond nid oes gennym y grym eto yng Nghymru i ehangu’r hawliau hynny gan sicrhau gwell fargen i bobl wrth eu gwaith. Dylai pob gweithiwr cyflogedig feddu ar yr hawl yn ei undeb llafur i gymryd rhan yn y broses benderfynu ynghylch cyflogau a phensiynau; telerau ac amodau cyflogaeth; ail-strwythuro cyflogaeth; a phenderfyniadau o bwys ynghylch buddsoddi.
Dylid cyflwyno deddfau mwy effeithiol i ddifa’r arfer o wrthod cynnig swyddi i aelodau o undebau llafur. Dylai fod yn gyfreithlon i bob gweithiwr weithredu’n dorfol mewn cydsafiad heb ofni cael ei erlid na’i ddiswyddo.
Yn benodol, dylai’r Senedd feddu ar y pŵer i ddileu pla cyflogau isel.
Yng Nghymru, rydym yn derbyn cyflogau is at ei gilydd nag a welir ar gyfartaledd ym Mhrydain — maent yn fwy anghyfartal fyth yn achos cyflogau menywod — ac mae gennym gyfran uwch o gyflogedigion mewn swyddi rhan amser a byrdymor.
Ac eto, fel y cadarnhaodd y Comisiwn ar Gyflogau Isel, mae’r drefn bresennol ar gyfer gweithredu Deddf yr Isafswm Cyflogau Cenedlaethol yn annigonol, a hynny’n enwedig mewn sectorau penodol ac yn achos prentisiaid.
Dylid roi i Lywodraeth Cymru y pwerau a’r adnoddau nid yn unig i orfodi’r isafswm cyflogau statudol yng Nghymru, ond hefyd yr opsiwn i’w gynyddu. Byddai hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaethu a weithreda’r ddeddf yn erbyn gweithwyr ifanc o ran cyflogau.
Mewn achosion lle mae bargeinio ar y cyd yn digwydd ar raddfa Brydeinig, ac yn gweithio’n dda, dylid ei gefnogi — ond rhaid i’r pŵer i ddeddfu ynghylch y materion hyn aros yng Nghymru.