Mae Plaid Gomiwnyddol Cymru’n deall yn iawn bod pobl wedi ymlâdd ac yn teimlo’n gleisiog yn sgil argyfwng Cofid-19. Mae llawer wedi colli anwyliaid. Mae’n amser caled – ac yn galetach i rai nag i eraill.
Rydym yn deall hefyd fod gwersi pwysig wedi cael eu dysgu. Mae pobl eisiau mwy o reolaeth dros eu bywydau a’u cymunedau. Ac yn enwedig, rydym am i’n gweithwyr allweddol a rheng flaen ni gael eu gwobrwyo â chyflogau ac amodau gwaith boddhaol.
Mae argyfwng Cofid wedi dangos i ba raddau y mae angen i wir rym fod yn nwylo pobl Cymru.
Golygai buddsoddi annigonol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), mewn gofal cymdeithasol i’r henoed, gweithgynhyrchu a chynllunio at argyfyngau sifil, nad oeddem yn barod i wynebu pandemig Cofid.
Rhybuddiodd Ymarferion Cygnet yng Nghymru (2015) a Cygnus yn Lloegr (2016), petai epidemig difrifol yn ymddangos, y gallai’r GIG a gwasanaeth gofal yr henoed wynebu prinder o ran Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), peiriannau anadlu meddygol a gwelyau gofal critigol a dwys.
Anwybyddodd Llywodraethau Prydain a Chymru’r canfyddion hyn i raddau helaeth, gan fethu ag ymgymryd â’r buddsoddi yr oedd ei angen.
Mae polisïau a ffafriai fanciau Dinas Llundain a’r marchnadoedd wedi gadael i’n hecónomi weithgynhyrchu farweiddio — bu raid i lywodraethau, awdurdodau iechyd a chartrefi gofal droi at Tsieina a gwledydd eraill felly i ymorol am offer amddiffynnol a meddygol.
Yn gynnar y llynedd, aeth pethau o ddrwg i waith yn sgil ymateb trychinebus llywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddyfodiad Cofid. Yn ei hawydd ffyrnig i ddiogelu elw busnesau, methodd â gosod cyfnodau clo’n ddigon cynnar a rhoddodd derfyn arnynt yn rhy fuan.
Bu angen llwgrwobrwyo’r cwmnïau cyffuriau anferth i’w perswadio i gynhyrchu pecynnau prawf a chyffuriau gwrthfeirysol. Roedd y system ‘brofi ac olrhain’ breifat yn drychineb gostus nes i’r GIG ei chymryd drosodd.
Pe na bai Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE), byddem wedi cael ein maglu, diolch i’r Comisiwn Ewropeaidd, yn y frwydr i gyrraedd pen y ciw i sicrhau brechiadau, sydd eisoes wedi costio miloedd o fywydau ar dir mawr Ewrop.
Yn lle hynny, diolch i’r GIG a’i Feddygon Teulu, i’n prifysgolion ni ac i wirfoddolwyr, mae gennym un o’r rhaglenni brechu mwyaf llwyddiannus yn y byd.
Ond erbyn hyn rydym yn wynebu dychweliad diweithdra torfol. Ar ôl achub croen busnesau â’r cynllun achub mwyaf ers cwymp ariannol 2008, mae’r llywodraeth Dorïaidd am i’r gweddill ohonom dalu. Bydd trethi’n codi; bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yn wynebu rhagor o ostyngiadau yng ngwir werth eu cyflogau, a bydd ein gwasanaethau ni’n dioddef.
Bydd grant bloc Llywodraeth Cymru’n cael ei wasgu i lawr mwy nag erioed o’r blaen.
Oherwydd hyn oll ac am resymau eraill, mae Comiwnyddion Cymru yn mynnu cael ‘Grym go iawn i werin Cymru’.
Yn y maniffesto hwn, byddwn yn egluro’n fanwl pam mae angen ar bobl Cymru, y Senedd a Llywodraeth Cymru:
- Pwerau economaidd ac amgylcheddol i sicrhau ecónomi fodern, gynaliadwy
- Pwerau ariannol er mwyn buddsoddi mewn swyddi, diwydiant a gwasanaethau cyhoeddus
- Grym yn y gweithle er mwyn ennill cyflogau, amodau a phensiynau sy’n deg
- Grym yn y gymuned i amddiffyn teuluoedd, ffrindiau a chymdogion
- Grym i Gymru a chanddi statws cyfartal mewn Prydain ffederal